Croeso i Gonsortiwm Rhyngwladol Cymru
Ffurfiwyd Consortiwm Rhyngwladol Cymru yn 2003 gan yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru i hyrwyddo Cymru yn y farchnad ryngwladol, fel cyrchfan hynod ddymunol a chystadleuol i astudio ynddi.
Mewn ymateb i Gynllun y Prif Weinidog, amcana Consortiwm Rhyngwladol Cymru at gynyddu'r niferoedd o fyfyrwyr rhyngwladol amser llawn sy'n cael eu recriwtio i Gymru , gan weithio ar y cyd gyda sefydliadau sy'n aelodau a chyda partneriaid o fri cenedlaethol a rhyngwladol.
Cyllidir Consortiwm Rhyngwladol Cymru gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a'r Cyngor Prydeinig Cymru ar y cyd ac fe'i cefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru .
Mae Consortiwm Rhyngwladol Cymru yn cynrychioli addysg uwch Cymru gyfan yn y farchnad ryngwladol ac mae'n gyfrifol am ddatblygu prosiectau ar y cyd, cyfeiriad a chynlluniau recriwtio i gyd-fynd â'r gweithgareddau marchnata a recriwtio .
Mae Consortiwm Rhyngwladol Cymru yn cynrychioli:
Aelodau Sefydliadol:
- Prifysgol Aberystwyth (saesneg)
- Prifysgol Bangor (saesneg)
- Prifysgol Caerdydd (saesneg)
- Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru (saesneg)
- Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (saesneg)
- Prifysgol Fetropolitan Abertawe (saesneg)
- Prifysgol Abertawe (saesneg)
- Coleg y Drindod Caerfyrddin (saesneg)
- Prifysgol Morgannwg (saesneg)
- Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (saesneg)
- Prifysgol Cymru Llanbedr-Pont-Steffan (saesneg)
- Prifysgol Cymru Casnewydd (saesneg)
Aelodau Proffesiynol a Chefnogol:
Cefnogir Consortiwm Rhyngwladol Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
TOP