English

Wales International Consortium

British Council logo

Y Cyngor Prydeinig Cymru

Mae'r Cyngor Prydeinig Cymru yn rhoi cefnogaeth i sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru gan hyrwyddo a sefydlu Cymru fel cyrchfan ddeniadol ar gyfer astudio yn rhyngwladol.

Mae grŵp Addysg a Hyfforddiant y Cyngor Prydeinig yn hyrwyddo ac yn gwella addysg a hyfforddiant yn y DU a ledled y byd drwy gryfhau addysg, hyfforddiant a chydweithrediad ymysg ieuenctid rhwng y DU a gwledydd eraill; gan gynyddu'r gydnabyddiaeth ryngwladol i amrediad ac ansawdd y cyfleoedd dysgu, a chyflwyno amrediad o raglenni o ansawdd mewn addysg ryngwladol, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon.

Mae'r Cyngor Prydeinig yn rheoli nifer o gynlluniau ysgoloriaeth ar ran llawer o noddwyr a chleientiaid, gan gynnwys Rhaglen Ysgoloriaeth Chevening. Rhaglen Ysgoloriaeth Chevening yw cynllun ysgoloriaethau rhyngwladol Llywodraeth Prydain ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sy'n cynnig gwobrau clodfawr sy'n galluogi myfyrwyr tramor i astudio yn y DU.

Mewn partneriaeth gyda Bwrdd Croeso Cymru, mae'r Cyngor Prydeinig Cymru wedi sefydlu Dysgu Saesneg yng Nghymru , sy'n cynnwys grŵp o ysgolion a chanolfannau Saesneg eu hiaith sydd wedi eu hachredu gan y Cyngor Prydeinig. Amcana'r bartneriaeth at hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i astudio ynddi i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dymuno gwella eu sgiliau yn yr iaith Saesneg mewn sefydliadau o ansawdd uchel mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel.

Y Cyngor Prydeinig
28 Park Place
Caerdydd CF10 3QE

Ffôn:   +44 (0)29 2039 7346
Ffacs:   +44 (0)29 2023 7494
Gwefan: www.britishcouncil.org/wales

Mwy o gysylltiadau:

www.hotcourses.com/
www.chevening.com
www.educationuk.org/shine

TOP