Marchnata
Blaenoriaethau marchnata Consortiwm Rhyngwladol Cymru yw:
- Hyrwyddo pob sefydliad sy'n aelod a chydnabod cryfder cydweithredol y Consortiwm
- Cynrychioli a hyrwyddo Consortiwm Rhyngwladol Cymru ar lefel sefydliadol, rhanbarthol a rhyngwladol
- Sicrhau bod Consortiwm Rhyngwladol Cymru yn ymwneud â digwyddiadau marchnata a hyrwyddo perthnasol ac yn trefnu ymweliadau oddi wrth gynrychiolwyr rhyngwladol
- Gweithio mewn partneriaeth gydag amrediad o gwmnïau a chyrff i ddatblygu a gweithredu blaenoriaethau strategol Consortiwm Rhyngwladol Cymru
- Cefnogi aelodau i gymhwyso gwybodaeth yn y farchnad i ddatblygu cysylltiadau rhwng portffolio Cymru o gyrsiau a blaenoriaethau datblygu mewn gwledydd a dargedir
- Gweithio ar y cyd gyda darparwyr addysg i fanteisio ar gyfleoedd marchnata posibl a darparu llwybrau dilyniant cynhwysfawr i fyfyrwyr rhyngwladol
- Datblygu amrywiaeth o raglenni addysg sy'n darparu mynediad a llwybrau dilyniant i addysg uwch yng Nghymru, ar wahanol bwyntiau mynediad
- Datblygu systemau cyfeirio addas i fyfyrwyr rhyngwladol a sicrhau mynediad i addysg uwch yng Nghymru, mewn gwahanol bwyntiau mynediad
- Codi ymwybyddiaeth ynghylch ansawdd profiad y myfyriwr rhyngwladol yng Nghymru a blaenoriaethu o ran datblygu cynlluniau a gweithgareddau marchnata
- Cefnogi datblygu cyfranogiad alumni ar sail Cymru gyfan mewn cynlluniau marchnata a recriwtio
- Datblygu cynyrchiadau a chyhoeddiadau o ansawdd i gefnogi cynlluniau marchnata
- Ymateb i newid: Datblygu strategaethau marchnata a hyrwyddo mewn perthynas â newidiadau mewn marchnadoedd rhyngwladol