English

Wales International Consortium

Cysylltiadau gyda phartneriaid

Mae Consortiwm Rhyngwladol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gydag amrediad eang o gwmnïau a chyrff i gyflawni blaenoriaethau strategol y Consortiwm.  

Elm Lane International Holdings (ELI): DU / China

Mae Consortiwm Rhyngwladol Cymru yn gweithio ar y cyd gyda ELI Holdings er mwyn datblygu portffolio o raglenni'r Sefydliad Rhyngwladol ledled China.

Bydd y Rhaglen Sylfaen Ryngwladol gyntaf yn dechrau ym mis Medi 2004 yn yr 80 Middle School enwog yn Beijing, China.   Mae Rhaglen WIC-ELI wedi denu nifer fawr o fyfyrwyr ar gyfer blwyddyn gyntaf y cwrs.  

Os hoffech fwy o wybodaeth am ELI Holdings: www.eliholdings.com

I gael mwy o wybodaeth am raglen sylfaen WIC - ELI: www.wicinternational.org

Ymholiadau: info@walesinternationalconsortium.com

Navix: Siapan

Mae Consortiwm Rhyngwladol Cymru yn gweithio ar y cyd gyda Navix, cwmni cyhoeddi sy'n cynhyrchu deunyddiau addysgol i'r farchnad ryngwladol.   Mae Navix yn gweithio gydag amrywiaeth eang o gwmnïau a darparwyr addysg ac yn defnyddio eu rhwydweithiau addysgol i hyrwyddo addysg uwch yng Nghymru.

Mae'r berthynas rhwng Consortiwm Rhyngwladol Cymru a Navix yn golygu gwneud defnydd cytûn o frandio, logo a negeseuon marchnata WIC, cyflwyno cyngor am addysg yng Nghymru a datblygu cyfleusterau marchnata a recriwtio yn Siapan.

I gael mwy o wybodaeth am Navix: www.navix.jp/gc

Sefydliad LKH

Mae Consortiwm Rhyngwladol Cymru wedi datblygu cysylltiadau da gyda'r corff sy'n cefnogi myfyrwyr yn China sef Lee Kai Hung.

Mae Consortiwm Rhyngwladol Cymru yn gweithio ar hyn o bryd gyda LKH i nodi cyfleoedd datblygu addas mewn perthynas ag amcanion strategol cyffredin.

I gael mwy o wybodaeth am LKH ewch i: http://cshelplineorg.site.securepod.com/index_en.htm

Mwy o gysylltiadau:

Bwrdd Croeso Cymru: www.wtbonline.gov.uk

MasnachCymru Rhyngwladol: www.walestrade.com

Awdurdod Datblygu Cymru: www.wda.co.uk

TOP