English

Wales International Consortium

Welsh Assembly Government logo

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae'r Cynulliad yn penderfynu ar ei flaenoriaethau ac yn dyrannu'r cyllid y sicrheir sydd ar gael iddo oddi wrth y Trysorlys. O fewn y pwerau sydd ganddo, mae'r Cynulliad yn datblygu ac yn gweithredu polisïau sy'n adlewyrchu anghenion arbennig pobl Cymru. Gwneir penderfyniadau am y materion hyn gan wleidyddion ac maent yn atebol, drwy'r blwch pleidleisio, i bleidleiswyr yng Nghymru. Mae Cymru yn dal yn rhan o'r DU ac mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Aelodau Seneddol (AS) o etholaethau Cymreig yn parhau i fod â seddau yn San Steffan. Mae deddfau sy'n cael eu pasio gan y Senedd yn San Steffan yn dal yn berthnasol i Gymru.

Cadeirir y Cynulliad gan y Llywydd, sy'n cyfateb i Lefarydd Tŷ 'r Cyffredin, ac a etholir gan y Cynulliad i gyd. Wedi iddo gael ei ethol, mae'r Llywydd yn gwasanaethu'r Cynulliad yn ddi-duedd. Ceir Dirprwy Lywydd hefyd a etholir yn yr un modd.

Mae'r 60 o Aelodau'r Cynulliad yn dirprwyo eu pwerau gweithredol (gwneud a gweithredu penderfyniadau a deddfau) i'r Prif Weinidog, a etholir gan y Cynulliad i gyd ac sydd felly fel arfer yn cynrychioli'r blaid wleidyddol fwyaf. Mae'r Prif Weinidog yn ei dro yn dirprwyo cyfrifoldeb am gyflwyno swyddogaethau gweithredol i Weinidogion y Cynulliad, sy'n ffurfio'r Cabinet. Mae'r Cabinet yn gwneud llawer o benderfyniadau o ddydd i ddydd y Cynulliad, ac mae ei Weinidogion yn gyfrifol am bynciau unigol fel iechyd ac addysg. Mae'r Cabinet yn atebol i weddill y Cynulliad, sy'n craffu ar ei holl benderfyniadau a'i weithrediadau.

www.wales.gov.uk

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd CF99 1NA

Ffôn: +44 (0) 29 20 825111
E-bost: assembly.info@wales.gsi.gov.uk

TOP